ElganDAVIESYn dawel yn Ysbyty Treforus Abertawe ar ddydd Iau Gorffennaf 23, 2015 hunodd Elgan, Talarwen, Beulah, Castell Newydd Emlyn yn 81 mlwydd oed; priod hoff Linda a thad annwyl Gaynor, Aures a'r diweddar Dylan, tad yng nghyfraith parchus Wyn ac Eurig a thadcu hoffus Deian, Owain a'r diweddar Iestyn. Gwasanaeth Angladdol Preifat yn Amlosgfa Parc Gwyn, Arberth ddydd Gwener Gorffennaf 31 am 10.45 o'r gloch ac yna i ddilyn rhoddir ei weddillion i orffwys ym medd y teulu yn mynwent Capel Beulah. Plethdorch y teulu yn unig. Ymholiadau pellach i'r Ymgymerwr Angladdau Maldwyn Lewis. Ffon. 01239 851005.
Keep me informed of updates